Toronto
| Toronto | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn talaith Ontario | |
| Gwlad | Canada |
| Ardal | Ontario |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Dinas Toronto |
| Maer | John Tory |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 630 km² |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 2,503,281 (Cyfrifiad Ionawr 2006) |
| Dwysedd Poblogaeth | 3,972 /km2 |
| Metro | 5,555,912 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
| Cod Post | (416) a (647) |
| Gwefan | http://www.toronto.ca |
Dinas yng Nghanada yw Toronto, prifddinas talaith Ontario. Hon yw dinas fwyaf poblog y wlad, gyda phoblogaeth o 4 miliwn.
Iaith gyffredin y ddinas yw'r Saesneg, sy'n cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'i bobl. Mae enw'r ddinas yn tarddu oddiwrth y gair Mohawk tkaronto, sy'n golygu 'man lle mae coed yn sefyll yn y dŵr'. Yn y gorffennol, roedd Toronto yn cael ei gweinyddu fel pum dinas annibynnol, a gafodd eu huno yn 1996.
Mae Eglwys Dewi Sant yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau ieithol.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Amffitheatr Molson
- Amgueddfa Brenhinol Ontario
- Amgueddfa Gardiner
- Canolfan Toronto Eaton (siopa)
- Parc HTO
- Sgwâr Yonge-Dundas
- Tŵr CN
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Raymond Massey (1896-1983), actor
- Carmen Silvera (1922-2002), actores
- David Cronenberg (g. 1943), cyfarwyddwr ffilm
- John Candy (1950-1994), actor
Cludiant Cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Comisiwn Cludiant Toronto (Saesneg: Totonto Transit Commission) yn cynnig gwasanaethau bws, tramffyrdd a rheilffyrdd tanddaearol. Mae 11 tramffordd a 4 lein danddaearol[1].
Mae gan Toronto 2 maes awyr, Maes awyr Pearson a Maes awyr Billy Bishop. Mae gwasanaethau rhyngwladol yn cyrraedd Maes awyr Pearson. Mae Maes awyr Billy Bishop ar Ynys Toronto; defnyddir gan wasanaethau lleol.
Mae gwasanaethau fferri yn mynd o Toronto i Ynys Ward, Ynys Canol a Pwynt Hanlan[2], ac mae un arall, siwrnai 121 medr o hyd, i Faes Awyr Billy Bishop[3]..