Minecraft
Mae Minecraft yn gêm cyfrifiadur a grëwyd yn wreiddiol gan y rhaglennwr Swedeg Markus "Notch" Persson ac wedyn datblygwyd a chyhoeddwyd gan Mojang.
Mae Minecraft yn gêm ble mae'r chwaraewyr yn gallu creu eu profiad eu hun. Mae'r chwaraewr yn cloddio ac adeiladu blociau lliw i greu byd o wahanol diroedd ac wedyn yn ceisio i'w fentro trwodd. Mae'r haul yn codi ac yn nosi ac mae'r tywydd yn newid wrthi i'r chwaraewr yn mynd at i gasglu adnoddau a gwneud offer. Mae anifeiliaid i'w ffermio neu ddefnyddio am fwyd, gan ddibynnu ar ba modd sydd wedi'i ddewis bydd angen ymladd i gadw'n fwy yn erbyn peryglon a'r cymeriadau drwg.[1]
Fe lansiwyd y fersiwn profi ar gyfer datblygwyr ym Mai 2009 a lansiwyd y fersiwn i'r cyhoedd ym 2011 ar y fer PC, Mac ac Android. Rhyddhawyd fersiwn ar gyfer Xbox yn 2012 ac ar gyfer PlayStation 3 yn 2013. Mae holl fersiynau o Minecraft yn derbyn diweddariadau cyson.
Yn 2012 rhyddhawyd Lego set seiliwyd ar Minecraft o'r enw Lego Minecraft.
Poblogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Erbyn 2015 roedd y Minecraft wedi gwerthu 70 miliwm o gopïau yn ei wneud yn un o'r gemau mwyaf poblogaidd erioed. Yn 20014 fe brynwyd Mojang a Minecraft gan Microsoft am $2.5 biliwn.[2]
Chwarae[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ddechrau'r gêm, mae'r chwaraewr yn cael ei osod ar wyneb byd di-ben-draw. Mae'r byd wedi'i rhannu i biomes sy'n cynnwys anialwch, jyngl, fforestydd ac eira. Mae system amser y gêm yn dilyn dydd a nos, gydag un cylch cyfan yn parhau 20 munud. Yn ystod y gêm mae'r chwaraewyr yn dod ar draws mobs o gymeriadau yn cynnwys anifeiliaid, pentrefwyr a chreaduriaid gelyniaethus.
Mae'r anifeiliaid fel moch, gwartheg ac ieir yn gallu cael eu hêl am fwyd ac yn ymddangos yn y dydd. Yn y nos mae mobs drwg fel zombîs, sgerbydau a phryfed cop yn ymddangos.
Mae sawl modd ar gael, yn cynnwys survival mode ble mae rhaid i'r chwaraewr casglu adnoddau i adeiladu'r byd a chadw'n fyw creative mode ble mae chwaraewyr yn cael llai o adnoddau i adeiladu, adventure mode ble mae chwaraewyr yn defnyddio mapiau a grëwyd gan bobl eraill, spectator mode ble mae chwaraewyr yn hedfan trwy blociau ond ddim yn cael gosod blociau a'r hardcore mode ble mae chwaraewyr o dan berygl o farw am byth. Mae'r fersiwn PC o'r gêm yn adnabyddus am y nifer fawr o ychwanegion ar gyfer ychwanegu mwy o gymeriadau a heriau.[3][4]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ http://minemum.com/what-is-minecraft
- ↑ Peckham, Matt (September 15, 2014). "Minecraft Is Now Part of Microsoft, and It Only Cost $2.5 Billion". http://time.com/3377886/microsoft-buys-mojang/. Adalwyd September 15, 2014.
- ↑ http://minemum.com/what-is-minecraft
- ↑ http://www.mirror.co.uk/news/technology-science/technology/what-minecraft-millions-children-addicted-3970439