Taron Egerton
| Taron Egerton | |
|---|---|
Egerton yn 2018 | |
| Ganwyd | Taron David Egerton[1] 10 Tachwedd 1989 Penbedw, Glannau Merswy, Lloegr |
| Cenedligrwydd | |
| Galwedigaeth | Actor, canwr |
| Gweithgar | 2012-presennol |
Actor Cymreig yw Taron David Egerton (ganwyd 10 Tachwedd 1989).[2][3] Daeth i sylw gyntaf am ei ran fel Dennis "Asbo" Severs yn y gyfres deledu Brydeinig The Smoke[4] a Gary "Eggsy" Unwin[5] yn y ffilm Kingsman: The Secret Service.
Chwaraeon ran Edward Brittain yn y ffilm ddrama Brydeinig Testament of Youth ac mewn pennod dau ran "The Ramblin' Boy" yn seithfed gyfres Lewis fel Liam Jay. Ymddangosodd yn y ffilm drosedd gyffrous Legend (2015) a serennodd fel Eddie "The Eagle" Edwards yn y ffilm fywgraffiadol Eddie the Eagle (2016). Yn 2019 portreadodd y cerddor Elton John yn y ffilm fywgraffiadol Rocketman lle mae'n canu yr holl ganeuon ei hun.
Cynnwys
Bywyd personol ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Egerton ym Mhenbedw, Glannau Merswy, Lloegr, i rieni Seisnig o Lerpwl.[6] Roedd ganddo un mamgu o Gymru.[6] Mae ei enw cyntaf yn gamsillafiad o "Taran" a'r awgrym yw bod ei fam wedi gwneud camgymeriad wrth gyfieithu o'r gair Saesneg "thunder".[7] Roedd ei dad yn arfer rhedeg gwely-a-brecwast ac mae ei fam yn gweithio yng ngwasanaethau cymdeithasol.[7] Fe'i magwyd yn wreiddiol yn ardal Penbedw ond fe symudodd i Ynys Môn ac yna Aberystwyth pan oedd yn ddeuddeg; mae Egerton yn ystyried ei hun yn Gymro ac yn siarad Cymraeg.[6][8][9] Fe aeth i Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth. Tra yn yr ysgol fe roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol (Prydain) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Cafodd ei hyfforddi fel actor yn RADA ac fe raddiodd gyda BA (Anrhydedd) mewn Actio yn 2010.[10] Mae'n canu tenor, yn arbenigo mewn ymladd llwyfan ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys llenyddiaeth a theithio.
Yn ystod ei gyfnod yn RADA, fe enillodd wobr 'Perfformiwr Myfyriwr y Flwyddyn' gan Gymdeithas Stephen Sondheim yn 2011, pan oedd yn 21 mlwydd oed.[11]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Cychwynnodd ei yrfa actio yn 2012 gyda rhan fach mewn dwy bennod o Lewis fel Liam Jay.[5] Yn ddiweddarach fe ymunodd a phrif gast y gyfres The Smoke ar Sky1.[4]
Fe wnaeth Egerton chwarae rhan Gary 'Eggsy' Unwin, protégé i Harry Hart (Colin Firth), yn ffilm Matthew Vaughn - Kingsman: The Secret Service.[5] Roedd yn cyd-serennu yn y ffilm Testament of Youth, wedi seilio ar fywyd Vera Brittain, lle'r oedd Alicia Vikander a Kit Harington yn chwarae'r prif rannau.[12]
Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl |
Rhan | Cyfarwyddwr | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|
| 2012 | Pop | Andy | Edward Hicks | Ffilm fer |
| 2013 | Hereafter | Tamburlaine | Johnny Kenton | Ffilm fer |
| 2014 | Testament of Youth | Edward Brittain | James Kent | Enwebwyd — Gŵyl Ffilm Llundain am "British Newcomer" |
| 2015 | Kingsman: The Secret Service | Gary "Eggsy" Unwin | Matthew Vaughn | Gwobr "Empire" am "Best Male Newcomer" Enwebwyd - Gwobr BAFTA Am Seren Newydd |
| 2015 | Legend | Edward "Mad Teddy" Smith | Brian Helgeland | |
| 2016 | Eddie the Eagle[13] | Eddie "The Eagle" Edwards | Dexter Fletcher | Enwebwyd - Gwobr "Teen Choice" am "Choice Movie Actor: Drama" |
| Sing | Johnny (llais) | Christophe Lourdelet & Garth Jennings | ||
| 2017 | Love at First Sight | Johnny (llais) | Benjamin Le Ster & Matthew Nealson | Ffilm fer |
| Billionaire Boys Club | Dean Karny | James Cox | ||
| Kingsman: The Secret Service 2 | Gary "Eggsy" Unwin / Galahad | Matthew Vaughn | ||
| 2018 | Robin Hood | Otto Bathurst | ||
| 2019 | Rocketman | Elton John | Dexter Fletcher | |
| 2019 | Pigeon Impossible † | Louis (llais) | Steve Martino, Troy Quane & Nick Bruno |
| † | Ffilmiau sydd heb eu rhyddhau eto |
Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2013 | Lewis | Liam Jay | 2 bennod |
| 2014 | The Smoke | Dennis "Asbo" Severs | 8 pennod |
| 2018 | Watership Down | El-Ahrairah (llais) | Cyfres fer |
| 2019 | Moominvalley | [Moomintroll (llais) | Prif ran |
| 2019 | The Dark Crystal: Age of Resistance † | Rian (llais) | Prif ran |
Theatr[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Theatr |
|---|---|---|---|
| 2012 | The Last of the Hausmanns | Danny | Royal National Theatre |
Fideo cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
| Blwyddyn | Artist | Cân | Albwm |
|---|---|---|---|
| 2015 | Lazy Habits | "The Breach" | The Atrocity Exhibition |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Taylor, Ben (4 March 2015). ""5 things about... your new British crush Taron Egerton". http://www.swide.com/celebrities/taron-egerton-5-facts-about-kingsman-eggsie-actor-including-girlfriend-and-han-solo-rumours/2015/03/04.
- ↑ ""Meet Taron Egerton: 12 Things to Know About the 'Kingsman' Breakout"". Yahoo Movies. https://www.yahoo.com/movies/meet-taron-egerton-12-things-to-know-about-the-110928025362.html. Adalwyd 16 April 2015.
- ↑ Owens, Dave (4 January 2015). "‘A star is born’ – Welsh actor Taron Egerton receives the seal of approval from Hollywood bible Variety". Wales Online. http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/a-star-born--welsh-8380485. Adalwyd 6 September 2015.
- ↑ 4.0 4.1 Howell, Jordan (12 April 2013). "Jamie Bamber, Jodie Whittaker for Sky1 drama ‘The Smoke’". imediamonkey.com. http://www.imediamonkey.com/2013/04/12/jamie-bamber-jodie-whittaker-for-sky1-drama-the-smoke/. Adalwyd 1 February 2014.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Kroll, Justin (25 July 2013). "Matthew Vaughn Eyes Newcomer Taron Egerton for ‘Secret Service’". variety.com. http://variety.com/2013/film/news/matthew-vaughn-eyes-newcomer-taron-egerton-for-secret-service-exclusive-1200568145/. Adalwyd 26 January 2014.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Taron Egerton on The Jonathan Ross Show, said starting at 0:52". youtube.com. 25 January 2015. https://www.youtube.com/watch?v=ZRldOmvDC2c.
- ↑ 7.0 7.1 "Meet Taron Egerton: 12 Things to Know About the 'Kingsman' Breakout". yahoo.com. 13 February 2015. https://www.yahoo.com/movies/meet-taron-egerton-12-things-to-know-about-the-110928025362.html.
- ↑ "Egerton's bio as of December 24, 2014". https://twitter.com/taronegerton.
- ↑ MR PORTER. "Mr Taron Egerton". Mr Taron Egerton - The Look - The Journal - Issue 199 - 13 January 2015 - MR PORTER. http://www.mrporter.com/journal/the-look/mr-taron-egerton/172.
- ↑ "Taron Egerton, UK Stars of Tomorrow 2014". screendaily.com. http://www.screendaily.com/features/uk-stars-of-tomorrow/taron-egerton-uk-stars-of-tomorrow-2014/5072741.article.
- ↑ Stephen Sondeim Society - Student Performer of the Year; Adalwyd 2015-12-11
- ↑ Ge, Linda (13 February 2014). "Taron Egerton, Colin Morgan and Alexandra Roach Join Alicia Vikander in ‘Testament of Youth’". upandcomers.net. http://upandcomers.net/2014/02/13/testament-of-youth-taron-egerton-colin-morgan-alexandra-roach-alicia-vikander. Adalwyd 16 March 2014.
- ↑ "The Eddie The Eagle Movie Will Be "Breaking Away Meets Slap Shot"... - Matthew Vaughn Kingsman Spoiler Podcast: Ten Things We Learned - Features - Empire". empireonline.com. http://www.empireonline.com/features/matthew-vaughn-ten-things/p9.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Taron Egerton yn yr Internet Movie Database
- Taron Egerton yn Rotten Tomatoes
|