Porwr Firefox Focus

Cadwch eich pethau'n breifat gyda rhwystro hysbysebion awtomatig a diogelwch rhag tracio ar iOS ac Android.

Nodweddion

  • Anghofio'r tracwyr hysbysebion

    Rhwystrwch hysbysebion sydd â thracwyr twyllodrus sy'n casglu eich data'n dawel fach drwy gadw llechen lan. Fydd Focus ddim yn eich cofio, na nhw.

  • Cychwyn glân

    Cliriwch eich sesiwn pori i gyd — cyfrineiriau, hanes, cwcis — gydag un clic, pryd bynnag fyddwch chi eisiau gwneud.

  • Cynyddu cyflymder pori

    Porwch yn ysgafn droed ac heb flerwch drwy rwystro hysbysebion sy'n llesteirio llwytho a'ch amynedd.

Mwy rhydd

Nid dilyn y dorf yw ein ffordd ni. Fel rhan o'r Mozilla dim-er-elw, mae Firefox yn arwain y frwydr i ddiogelu eich hawliau ar-lein, ac fel pencampwr y Rhyngrwyd er mantais i bawb — nid dim ond rhai.

Porwch yn annibynnol gyda Firefox

Mwy o berfformiad

Ffwrdd â ni, Rhyngrwyd. Rydym wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cyflymu perfformiad Firefox. Nawr mae'n cychwyn, newid tabiau a sgrolio fel cath i gythraul.

Gwneud mwy gyda Firefox