Jacques Derrida
| Jacques Derrida | |
|---|---|
| Geni | Jackie Élie Derrida Gorffennaf 15, 1930 El Biar, Algeria |
| Marw | Hydref 9, 2004 Paris, Ffrainc |
| Galwedigaeth | Athronydd |
| Cenedligrwydd | Ffrancwr |
| Addysg | École Normale Supérieure, Prifysgol Harvard |
| Cyfnod ysgrifennu | 20ed ganrif |
| Symudiad llenyddol | Ôl-adeileddaeth, Dad-adeileddaeth, Ôl-foderniaeth |
Athronydd oedd Jacques Derrida (enw genedigol Jackie Élie Derrida; 15 Gorffennaf 1930 - 9 Hydref 2004). Er y caiff ei ystyried yn Ffrancwr, cafodd ei eni yn Algeria. Fe'i adnabyddir yn bennaf am ei waith yn y maes semiotig, gan iddo ddatblygu ffurf ddadansoddol semiotaidd, dad-adeileddaeth.(déconstruction). Mae ymysg ffigyrau pwysicaf ôl-adeileddaeth ac athroniaeth ôl-fodern.
Ar hyd ei yrfa, cyhoeddodd mwy na 40 o lyfrau, ynghŷd â channoedd o draethodau a darlithoedd cyhoeddus. Cafodd ddylanwad sylweddol ar y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, nid yn unig mewn meysydd fel athroniaeth a llenyddiaeth, ond hefyd y gyfraith, cymdeithaseg, theori wleiyddol, ffeministiaeth a seicdreiddiad.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- La Voix et le phénomène (1967)
- L'Écriture et la différence (1967)
- De la grammatologie (1967)
- Positions (1972)
- La dissémination (1972)
- L'archéologie du frivole (1973)
- La vérité en peinture (1978)
- Otobiographies. L'enseignement de Nietzsche et la politique du nom propre (1984)
- Parages (1986)
- Psyché Inventions de l'autre (1987)
- Le Problème de la genèse dans la philosophie de Husserl (1990)
|