Inigo Jones
| Inigo Jones | |
|---|---|
Portread o Inigo Jones gan William Hogarth, ar ôl gwaith gan Antoon van Dyck |
|
| Ganwyd | 15 Gorffennaf 1573 Llundain |
| Bu farw | 21 Mehefin 1652 Llundain |
| Gwaith | Pensaer |
| Gwaith nodedig | Eglwys Sant Paul, Queen's Chapel |
Pensaer Seisnig o dras Gymreig oedd Inigo Jones (15 Gorffennaf 1573 – 21 Mehefin 1652). Ef sydd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r arddull glasurol i bensaernïaeth yng ngwledydd Prydain.
Ganwyd Inigo Jones yn Smithfield, Llundain, yn fab i weithiwr brethyn Cymreig a oedd hefyd yn dwyn yr enw anghyffredin 'Inigo'. Ar daith i'r Eidal ym 1613 daeth yn ymwybodol o adeiladau Andrea Palladio yn y Veneto a'i ysgrifau ar bensaernïaeth. Bu'r rhain, ynghŷd â gwaith yr awdur a phensaer Rhufeinig Vitruvius, yn ysbrydoliaeth mawr iddo. O 1615 hyd 1642 bu Inigo yn bensaer i'r llys brenhinol (Surveyor of the King's Works), yn gwasanaethu'r brenhinoedd Iago I a Siarl I. Yn y cyfnod yma cynlluniodd Tŷ'r Frenhines yn Greenwich, yr adeilad glasurol gyntaf yng ngwledydd Prydain, a'r Tŷ Gwledda ym Mhalas Whitehall. Hefyd, ef oedd y pensaer a gynlluniodd Covent Garden Piazza, y sgwâr ffurfiol cyntaf yn Llundain.
Claddwyd ef yn Uwcheglwys San Bened yn Ninas Llundain.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
-
Capel y Frenhines, Palas Sant Iago
-
Ffasâd ar gyfer hen Eglwys Gadeiriol Sant Paul
|