Friedrich Schiller
| Friedrich Schiller | |
|---|---|
| Ganwyd | Johann Christoph Friedrich von Schiller 10 Tachwedd 1759 Marbach am Neckar |
| Bu farw | 9 Mai 1805 Achos: Diciâu Weimar |
| Alma mater | Karlsschule Stuttgart, Prifysgol Jena |
| Gwaith | Bardd, athronydd, hanesydd, llyfrgellydd, awdur, dramodydd, nofelydd, academydd, cyfieithydd, newyddiadurwr |
| Cyflogwr | Prifysgol Jena |
| Gwaith nodedig | The Robbers, Don Carlos, Wallenstein, Mary Stuart, William Tell, Intrigue and Love, On the Aesthetic Education of Man, Die Huldigung der Künste |
| Aelod o | Yr Academi Gwyddoniaeth Defnyddiol, Academi Frenhinol Llythyrau, Hanes a Hynafiaethau Sweden |
| Priod | Charlotte von Lengefeld |
| Plant | Emilie von Gleichen-Rußwurm, Ernst von Schiller |
| Teulu | Christophine Reinwald |
| Llofnod | |
Bardd, dramodydd, hanesydd ac athronydd oedd Johann Christoph Friedrich von Schiller (10 Tachwedd 1759 - 9 Mai 1805).
Cynnwys
Magwraeth cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei eni ym Marbach am Neckar, Yr Almaen yn fab i'r meddyg Johann Kaspar Schiller (1733-1796), a'i wraig Elisabeth Dorothea Kodweiß (1732-1802). Fe'i galwyd ar ôl Ffredrig II, brenin Prwsia ond galwyd ef gan bawb yn Fritz.[1] Roedd tad Schiller yn gweithio i'r fyddin Schwäbisch Gmünd a symudodd y teulu ato yn 1763, ar derfyn y rhyfel, i le o'r enw Lorch.[2] Yn Lorch, derbyniodd Schiller addysg cynradd o safon isel, felly, trefnodd ei rieni iddo dderbyn addysg gan offeiriad: mewn Lladin a Groeg. Sgwennodd Schiller am Pastor Moser yn ei ddrama cyntaf: Die Räuber (Y Lladron) Am gyfnod, roedd Schiller yn awyddus i ddilyn ôl traed ei athro a mynd yn offeiriad.[3] Symudodd y teulu i Ludwigsburg.[4] a daeth i sylw Charles Eugene, Dug Württemberg a drefnodd iddo fynd i'r coleg milwrol Karlsschule Stuttgart yn 1773 i astudio meddygaeth. Bu'n ddyn sâl am y rhan fwyaf o'i fywyd a cheisiodd wella'i hyn ar bob achlysur.
Y sgwennwr[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn ffrind i'r gŵr dylanwadol Johann Wolfgang von Goethe am 17 mlynedd olaf ei fywyd: rhwng 1788–1805. Roedd y cyfeillgarwch hwn yn un cymhleth, a sbardunodd lawer o drafodaethau am estheteg; gelwir hyn heddiw yn Weimar Classicism. Datblygodd y ddau syniadau eraill hefyd gan gynnwys Xenien, sef casgliad o gerddi byr, athronyddol.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- An die Freude (1785)
- Das Lied von der Glocke (1798)
- Die Künstler
Drama[golygu | golygu cod y dudalen]
- Die Räuber (1781)
- Kabale und Liebe (1784)
- Don Carlos (1787)
- Maria Stuart (1800)
- Die Jungfrau von Orleans (1801)
- Turandot (1802)
- Die Braut von Messina (1803)
- Wilhelm Tell (1804)
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
- Geschichte des Abfalls der vereinigten Niederlande von der spanischen Regierung
- Geschichte des dreissigjährigen Kriegs
- Über Völkerwanderung, Kreuzzüge und Mittelalter
Arall[golygu | golygu cod y dudalen]
- Über die ästhetische Erziehung des Menschen in einer Reihe von Briefen
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|