Che Guevara
| Che Guevara | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Mehefin 1928 Rosario |
| Bu farw | 9 Hydref 1967 Achos: anaf balistig La Higuera |
| Man preswyl | Yr Ariannin, Cuba, Bolifia, Chile |
| Alma mater | Universidad de Buenos Aires |
| Gwaith | Gwleidydd, meddyg, bardd, diplomydd, athro, awdur ysgrifau, chwaraewr rygbi'r undeb, sgriptiwr, cofiannydd, banciwr |
| Aelod o | 26th of July Movement |
| Priod | Hilda Gadea, Aleida March |
| Plant | Aleida Guevara |
| Gwobr/au | Collar of the Order of the White Lion, grand-croix de l'ordre national de la Croix du Sud, Order of the Republic |
| Llofnod | |
Ernesto Rafael Guevara de la Serna (14 Mai 1928 — 9 Hydref 1967) chwyldroadwr o'r Ariannin a chwareuodd ran allweddol yn chwyldro Ciwba.
Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Meddyg oedd Che o ran ei broffesiwn. Yn ddyn ifanc rhoddodd ei waith ei fyny a theithiodd yr holl ffordd trwy dde a chanolbarth America ar fotorbeic. Roedd y daith honno i newid ei fywyd. Bu'n llygad-dyst i dlodi ac anghyfiawnder ar raddfa eang a phenderfynodd fod rhaid newid hynny. Ym Mecsico syrthiodd i mewn gyda chriw o Giwbanwyr alltud a ddyheai weld chwyldro yn Ciwba. Un ohonynt oedd Fidel Castro.
Y chwyldroadwr[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd Che yn aelod o Fudiad 26ain o Orffennaf dan arweiniad Fidel Castro a gipiodd awdurdod yn Ciwba yn 1959 ar ôl disodlu llywodraeth Batista. Gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y llywodraeth newydd, ond canolbwyntiodd ar ddiywgio byd amaeth. Gadawodd Ciwba yn 1966 i geisio tanio chwyldro mewn gwledydd eraill gan gynnwys y Congo a Bolifia. Fe'i dienyddiwyd gan fyddin Bolifia yn Hydref 1967.
Ei ddylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd esiampl Che ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth radicalaidd y 1960au. Tyfodd ei lun, yn benodol y ffotograff Guerrillero Heroico, i fod yn un o eiconau mwyaf amlwg y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Mae Dafydd Iwan wedi canu cân i Che Guevara.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Sbaeneg) Che, Guía y Ejemplo
|