Brighton
Tref ar arfordir de Lloegr yn Nwyrain Sussex ydy Brighton, sydd ynghyd a'i Hove yn ffurfio Dinas Brighton a Hove. Brighton yw un o drefi glan-môr mwyaf ac enwocaf ym Mhrydain.
Mae anheddiad hynafol Brighthelmston yn dyddio o cyn y Domesday Book (1086), ond trodd yn gyrchfan iechyd yn ystod yr 18g a chyrchfan poblogaidd ar gyfer trip un diwrnod gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841. Profiadodd Brighton dŵf poblogaeth cyflym iawn gan gyrraedd uchafbwynt poblogaeth o 160,000 erbyn 1961.[1] Mae Brighton cyfoes yn ffurfio rhan o glymdref Brighton, Worthing a Littlehampton sy'n ymestyn i lawr yr arfordir, gyda poblogaeth cyfan o tua 480,000.[2]
Mae Brighton yn gyrchfan twristiaeth poblogaidd gyda nifer o westai, tai bwyta a chyfleusterau adloniant sydd hefyd yn helpu i weini diwydiant cynhadledd busnes. Mae dinas gyfoes Brighton a Hove hefyd yn ganolfan addysg pwysig gyda dwy brifysgol a nifer o ysgolion Seisnig.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn y Domesday Book, gelwyd Brighton yn Bristelmestune a sefydlwyd rhent o 4,000 o benwaig. Ym mis Mehefin 1514, llosgwyd Brighthelmstone i'r ddaear gan yr ysbeilwyr Ffrengig yn ystod rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc. Dim ond rhan o Eglwys Sant Nicholas a phatrwm y strydoedd a adnabyddir heddiw fel y Lanes a oroesodd yr ymosodiad. Cyflawnwyd y darlun cyntaf a wyddwn amdano o Brighthelmstone yn 1545, mae'n dangos beth a gredir yw ymosodiadau 1514.[3] Yn ystod yr 1740au a'r 1750au, dechreuodd y meddyg Richard Russell o Lewes, ddarnodi defnydd meddyginiaethol dŵr môr Brighton iw gleifion. Erbyn 1780, roedd datblygiad y terasau Rhaglywiaeth wedi dechrau a daeth y pentref yma'n fuan yn gylchfan ffasiynol Brighton. Annogwyd tef y dref yn bellach yn dilyn nawddogaeth y Tywysog Rhaglyw (yn ddiweddarach Siôr IV) ar ôl ei ymweliad cyntaf yn 1783.[4] Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn y dref ac adeiladodd y Pafiliwn Brenhinol drud ac egsotig yn ystod ddyddiau cynnar ei raglywiaeth.
Gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841, daeth Brighton o fewn cyrraedd teithwyr un diwrnod o Lundain, a gwelodd dwf poblogaeth cyflym o tua 7,000 yn 1801 i dros 120,000 erbyn 1901.[5] Gwelodd yr Oes Fictoraidd adeilad nifer o dirnodau enwog yn Brighton gan gynnwys y Grand Hotel (1864), Pier y Gorllewin (1866) a Pier y Palas (1899).
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Eleanor Vere Boyle (1825-1916), arlunydd
- Frederick Courtenay Morgan (1834-1909), gwleidydd
- Charles Hanbury-Tracy (1840-1922), gwleidydd
- Emily Gravett (g. 1972), darlunydd ac awdures
- Samantha Womack (g. 1972), actores
- Jordan (Katie Price) (g. 1978), model
- Stephanie Parker (1987-2009), actores
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Carder, Timothy (1990). The Encyclopedia of Brighton. S.127 East Sussex County Libraries. ISBN 0-86147-315-9
- ↑ (Saesneg) KS01 Usual resident population: Census 2001, Key Statistics for urban areas
- ↑ Carder (1990), s.17
- ↑ Carder (1990), s.71
- ↑ Carder (1990), s.127
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwybodaeth twristiaeth ayb. ar city-of-brighton.com
- (Saesneg) 'Brighton & Hove City Council'
- (Saesneg) Gwybodaeth twristiaeth ar visitbrighton.com
- Llun Satellite o Brighton ar Google Maps
- (Saesneg) 'Brighton Museum & Art Gallery'
- (Saesneg) History of Brighton and the Royal Pavilion palace
- (Saesneg) Brighton & Hove mewn lluniau
Dinasoedd
Brighton a Hove
Trefi
Battle · Bexhill-on-Sea · Brighton · Crowborough · Eastbourne · Hailsham · Hastings · Heathfield · Hove · Lewes · Newhaven · Peacehaven · Polegate · Rye · Seaford · Telscombe · Uckfield · Wadhurst · Winchelsea