Beijing
| Talfyriad: 京 (Pinyin: Jīng) | |
Beijing |
|
| Tarddiad yr enw | 北 běi - gogledd 京 jīng - prif ddinas felly: prif ddinas ogleddol |
| Maint - Cyfanswm - % o'r cenhedl |
Safle: 29ain 16,808 km² 0.175% |
| Poblogaeth - Cyfanswm (2001) - % o'r genedl - Dwysedd |
Safle: 26ain 13,820,000 1.08% 822/km² |
| GDP yn RMB¥ - Cyfanswm (2002) - % o'r genedl - per capita |
Safle: 15fed 313.0 billiwn ¥ 3.06% 22600 ¥ |
| Math o lywodraeth | Bwrdeistref |
| Rhanbarthau safon sirol | 18 |
| Rhanbarthau safon trefi | 318 |
| Côd Post | 100000 - 102600 |
| Côd Ffôn | 10 |
| Rhagddodiad plât rhifau | 京A, C, E, F, H |
| 京B (tacsïau) | |
| 京G (maestrefi pell) | |
| 京O (heddlu ac awdurdodau) | |
| ISO 3166-2 | CN-11 |
Prifddinas Gweriniaeth Pobl China a dinas ail fwyaf y wlad gyda 13,820,000 o drigolion yw Beijing (北京, "prif ddinas ogleddol";
ynganiad ). Yn ogystal, mae Beijing yn ddinas hunanlywodraethol gyda statws tebyg i dalaith.
Cynnwys
Enw'r ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]
Ystyr Beijing yw "prif ddinas ogleddol" (cymharer Nanjing, "y brif ddinas ddeheuol", a Tonkin a Tokyo; i gyd yn golygu "y brif ddinas ddwyreinol"). Weithiau mae Beijing yn cael ei alw'n Peking — daeth yr enw hwn i'r Saesneg drwy genhadon Ffrengig, bedwar can mlynedd yn ôl, ac mae'n dangos cyfnewidiad seinegol yn ystod y Brenhinllin Qing.
Yn Tsieina mae'r ddinas wedi newid ei henw lawer gwaith. Rhwng 1928 a 1949, Beiping ("Heddwch gogleddol") oedd enw'r ddinas, am fod llywodraeth y Cenedlaetholwyr (Kuomintang) yn rheoli'r gwlad o Nanjing, ac roedden nhw eisiau dangos nad Beijing oedd prifddinas y wlad. Pan oedd y Siapaneaid yn rheoli gwladwriaeth byped yng ngogledd China gyda Beijing yn brifddinas, arddelwyd yr enw Beijing unwaith eto, ond yn 1945 newidiodd llywodraeth Gweriniaeth Tsieina yr enw'n ôl i Beiping. Pan enillodd y Blaid Gomiwnyddol y rhyfel cartref yn Hydref 1949, newidiwyd yr enw i Beijing i ddangos eu bod nhw'n rheoli China gyfan. Dydy llywodraeth Gweriniaeth China yn Taiwan ddim wedi newid yr enw yn swyddogol, ac yn y 1950au a'r 1960au arferai llawer o bobl yn Taiwan alw'r ddinas yn "Beiping". Heddiw mae bron pawb yn Taiwan (gan gynnwys y llywodraeth) yn galw'r ddinas yn "Beijing".
Ceir yr hen enw Cymraeg Pecin[1] a ddaw o'r ffurf Saesneg Peking.
Gwleidyddiaeth a llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae llywodraeth drefnol yn cael ei rheoleiddio gan y Blaid Gomiwnyddol Tsieina leol, arweiniwyd gan yr Ysgrifennyd Beijing y Blaid (Tsieineeg: 北京市委书记). Mae'r blaid leol yn rhyddhau archebion gweinyddol, casglu treth, rheoli'r economi, ac yn cyfarwyddo pwyllgor o'r Gyngres Drefol y Bobl mewn penderfyniadau polisi a goruwchwylio'r llywodraeth leol.
Prifysgol[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr Athro Hopkyn Rees sefydlodd y coleg cyntaf yma, yn 1869, sef coleg yn arbenigo mewn dysgu ieithoedd. Ganwyd Rees yng Nghwmafan, Gorllewin Morgannwg.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hen Palas yr Haf
- Mur Mawr Tsieina
- Neuadd Mawr y Bobol
- Pagoda Teml Tianning
- Palas ymerodrol
- Sgwâr Tiananmen
- Teml Cheng'en
- Teml yr Haul
- Teml Hongluo
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Joyce Chen (1917-1994), chef
- Bai Guang (1921-1999), actores a chantores
- Xi Jinping (g. 1953), gwleidydd
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Peking].
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |