Arabeg
Oddi ar Wicipedia
| Arabeg | ||
|---|---|---|
| العربية/عربي/عربى al-ʻarabiyyah/ʻarabī | ||
|
al-ʿArabiyyah yn Arabeg ysgrifenedig (sgript Naskh) |
||
| Ynganiad IPA | /al ʕarabijja/, /ʕarabiː/ | |
| Siaredir yn | Gwledydd y Gynghrair Arabaidd, Israel, Iran, Twrci, Eritrea, Mali, Niger, Chad, Senegal, De Swdan, Ethiopia, cymunedau Arabeg yn y Byd Gorllewinol | |
| Cyfanswm siaradwyr | 295 miliwn (2010)[1] | |
| Teulu ieithyddol |
|
|
| System ysgrifennu | Yr wyddor Arabeg Breil Arabeg Yr wyddor Syrieg (Garshuni) Yr wyddor Hebraeg (Judaeo-Arabeg) |
|
| Statws swyddogol | ||
| Iaith swyddogol yn | Mae Arabeg safonol yn iaith swyddogol mewn 27 gwlad | |
| Rheoleiddir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | ar | |
| ISO 639-2 | ara | |
| ISO 639-3 | ara | |
| Wylfa Ieithoedd | – | |
Iaith Semitaidd yw'r Arabeg
i/ˈærəbɪk/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6g. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]
Hewddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw 'Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n 'Arabeg Lenyddol'.[3]
Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.
Ymadroddion Cyffredin[golygu | golygu cod y dudalen]
Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.
- عربية : Arabiyya : Arabeg
- ويلزي : wailzi : Cymraeg
- لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru
- إنكليزي : 'inglizi : Saesneg
- ! مرحبا : marHaban! : Helo!
- ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".)
- ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!
- ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch!
- كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae?
- ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!
- ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!
- ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!
- ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!
- ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da!
- ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da!
- ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi!
- ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!
- ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.
- ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!
- ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!
- ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!
- ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch
- ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i!
- نعم : nAm : ïe / do / oes, etc.
- ﻻ : la' : nage / naddo / nag oes, etc.
- ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!
- ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!
- ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Nationalencyklopedin: "Världens 100 största språk 2010" - 100 o'r Ieithoedd Mwyaf y Byd yn 2010
- ↑ "World Arabic Language Day". UNESCO. 18 Rhagfyr 2012. http://www.unesco.org/new/en/unesco/events/prizes-and-celebrations/celebrations/international-days/world-arabic-language-day/. Adalwyd 12 Chwefror 2014.
- ↑ "Arabic language." Encyclopædia Britannica. 2009. Encyclopædia Britannica Online. Adalwyd 29 Gorffennaf 2009.
Argraffiad Arabeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd