2007
Oddi ar Wicipedia
20fed ganrif 21ain ganrif 22fed ganrif
1950au 1960au 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au 2020au 2030au 2040au 2050au
2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012
Cynnwys
Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1 Ionawr - Bwlgaria a Rwmania yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, a Slofenia yn cyflwyno'r ewro fel arian cyfredol.
- 30 Ionawr - Connie Fisher yn ennill gwobr "Critics' Circle Most Promising Newcomer" yn Llundain.
- 1 Ebrill - Creu Cymru'r Gyfraith, y drefn gyfreithiol newydd i Gymru gyfan.
- 4 Ebrill - Darganfod Gliese 581 c, planed newydd allheulol.
- 3 Mai - Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007: Plaid Lafur yn cael 26 sedd (-3), Plaid Cymru 15 (+3), Ceidwadwyr 12 (+1), Democratiaid Rhyddfrydol 6 (dim newid), Annibynwyr 1 (-1).
- 21 Mehefin - Paul Potts yn ennill y wobr gyntaf yn Britain's Got Talent.
- 11 Gorffennaf - Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru mewn llywodraeth glymblaid Llafur/Plaid Cymru, Cymru'n Un
- 1 Awst - Cwympiad y Bont 35W ym Minneapolis, UDA.
- 4-11 Awst - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
- 15 Awst - Daeargryn yn Periw; 512 o bobol yn colli ei bywydau.
- 14 Medi - Priodas Ioan Gruffudd ac Alice Evans.
- 19 Hydref - Arwyddo Cytundeb Lisbon.
- 14 Tachwedd - Agoriad y rheilffordd High Speed 1 o Lundain.
- 18 Tachwedd - Trychineb y pwll glo Zasyadko yn Wcrain; 101 o glowyr yn colli ei bywydau.
- 9 Rhagfyr - Joe Calzaghe yn ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.
Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gweler Llenyddiaeth yn 2007
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Karl Jenkins - This Land of Ours (gyda'r Cory Band a Chantorion)
- Katherine Jenkins - Viva
- Kelly Jones - Only the Names have been Changed
- Kaiser Chiefs - Yours Truly, Angry Mob
- Avril Lavigne - The Best Damn Thing
- Manic Street Preachers - Send Away The Tigers
- Natasha Marsh - Amour
- Gruff Rhys - Candylion
- Lisa Scott-Lee - Never and Now
- Stereophonics - Pull the Pin
- Elin Manahan Thomas - Eternal Light
- KT Tunstall - Drastic Fantastic
Arall[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nigel Hess - Concerto Piano
Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- The Simpsons Movie
- The War on Democracy
- Enchanted, ffilm Disney
Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 20 Medi - Ruby Megan, baban Charlotte Church a Gavin Henson
Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 4 Ionawr - Grenfell Jones (Gren), cartwnydd - 72
- 14 Ionawr - Peter Prendergast, arlunydd, 60
- 21 Ionawr - Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru, 58
- 24 Ionawr - David Morris, gwleiddydd, 76
- 1 Chwefror - Gian Carlo Menotti, cyfansoddwr, 95
- 6 Chwefror - Syr Gareth Roberts, ffisegydd, 66
- 7 Chwefror - Brian Williams, chwaraewr rygbi, 44
- 3 Ebrill - Marion Eames, nofelydd, 85
- 12 Ebrill - Len Hill, chwaraewr criced, 65
- 27 Ebrill - Boris Yeltsin, arlywydd Rwsia, 76
- 11 Mehefin - Mercer Simpson, awdur, 81
- 19 Gorffennaf - Ivor Emmanuel, canwr ac actor, 80
- 30 Gorffennaf - Ingmar Bergman, cyfarwyddwr ffilm, 89
- 12 Awst - Alwyn Rice Jones, archesgob, 73
- 16 Awst - Roland Mathias, bardd ac awdur, 91
- 17 Awst - Will Edwards, gwleidydd, 69
- 25 Awst - Raymond Barre, Prif Weinidog Ffrainc, 83
- 6 Medi
- Luciano Pavarotti, canwr opera, 71
- Byron Stevenson, pêl-droedwr, 50
- 9 Medi - Syr Tasker Watkins, 88
- 10 Medi - Anita Roddick, sylfaenydd y Body Shop, 64
- 15 Medi - Colin McRae, gyrrwr rali, 39
- 18 Medi - Pepsi Tate, cerddor, 42
- 22 Medi - Marcel Marceau, dynwaredwr, 84
- 31 Hydref - Ray Gravell, chwaraewr rygbi a chyflwynydd radio, 56
- 27 Rhagfyr - Benazir Bhutto, gwleidydd, 54