Llyffant
| Llyffantod a brogaod | |
|---|---|
| Marchlyffant Americanaidd (Rana catesbeiana) |
|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Is-ffylwm: | Vertebrata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anura Merrem, 1820 |
| Is-urddau | |
Grŵp o amffibiaid yn perthyn i'r urdd Anura (o'r Groeg 'an' neu 'dim' ac 'aoura' sef 'cynffon') yw'r llyffant neu froga. Mae tua 4,800 o rywogaethau sy'n byw ledled y byd, yn enwedig mewn mannau llaith yn y trofannau, sef dros 85% o ymlusgiaid. Mae ganddynt gorff tew a byr, pen mawr a choesau ôl hir ac maent yn gigysyddion. Does gan yr oedolyn ddim cynffon.
Mae'r ffosil hynaf sydd wedi'i ganfod o lyffant yn ffosil o 'broto-lyffant' a ymddangosodd yn yr epoc y Triasic cynnar, a hynny ym Madagasgar, ond credir fod eu tarddiad yn llawer hŷn: y cyfnod Permaidd, 265 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Nodweddir corff y llyffant gan lygaid mawr sy'n ymestyn allan o'r corff, tafod hir, coesau sy'n plygu'n daclus a diffyg cynffon. Er mai pyllau dŵr a thir gwlyb, ydy cynefin y rhan fwyaf o frogaod, gall oedolion ambell rywogaeth fyw o dan y ddaear neu ar goed. Mae ei groen yn chwarenog, gyda secretiad cas, drewllyd neu angheuol. Ceir cryn amrywiaeth o ran lliw'r croen, gyda chuddliw'n chwarae rhan bwysig yn hyn o beth: gall amrywio o frown i lwyd i wyrdd ac ar adegau lliwiau ffyrnig megis coch neu felyn neu ddu i ddychryn ei ysglyfaeth.
Yn gyffredinol, mewn dŵr mae'r llyffant yn dodwy ei wyau, a elwir yn grifft, ac maent yn deor yn y dŵr fel penaubyliaid bychan gyda chynffonau hir a thagellau mewnol a chegau ar gyfer bwyta llysdyfiant yn hytrach na chig. Cwbwlheir y cylch bywyd pan drawsnewidiant i ffurf oedolyn. Ar dir mae ambell rywogaeth yn dodwy ei wyau ac eraill yn hepgor y cyfnod penbwl. Er mai cigysyddion ydy'r rhan fwyaf o rywogaethau, mae rhai'n hollysol ac mae rhai'n gwledda ar ffrwyth.
Mae poblogaeth llyffantod yn gyffredinol wedi gostwng yn eithriadol ers y 1950au. Mae dros treuan ohonyn nhw, bellach, dan fygythiad, gyda dros 120 wedi darfod ers 1980.[1] Maen nhw'n cael eu difa gan lawer o afiechydon modern megis chytridiomycosis, a hynny drwy'r byd ac maent yn ffefryn i'w bwyta gan lawer o rywogaethau gan gynnwys dyn.
Cymru a'i llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir dwy rywogaeth gyffredin o lyffant yng Nghymru: Bufo bufo, y llyffant dafadennog, a Rana temporaria a elwir broga yn Ne Cymru a llyffant melyn neu lyffant cyffredin yng Ngogledd Cymru.
Ceir llawer o gyfeiriadau mewn llenyddiaeth at y llyffant gan gynnwys:
- cerdd gan y bardd Elfed 'Gwyn ap Nudd':
- Gwyddost lle mae’r llyffant melyn
- Yn lletya rhwng y rhedyn...
- Drama gan Huw Lloyd Edwards: Llyffantod (drama).
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llyffant y twyni, Bufo calamita
- Llyffant melyn, Rana temporaria
- Broga dŵr, Rana lessonae
- Broga bwytadwy, Rana esculenta
- Broga'r gors, Rana ridbunda
- Marchlyffant Americanaidd, Rana catesbeiana
- Madfall
- Amffibiaid
- Ffynnon Llyffant
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Pimm, Stuart L. (1979). "The structure of food webs". Theoretical Population Biology 16 (2): 144–158. doi:10.1016/0040-5809(79)90010-8. PMID 538731. http://www.nicholas.duke.edu/people/faculty/pimm/publications/pimmreprints/12_Pimm_TPB_1979.pdf.