Denzel Washington
| Denzel Washington | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Rhagfyr 1954 Mount Vernon, Efrog Newydd |
| Man preswyl | Los Angeles |
| Alma mater | Prifysgol Fordham, Prifysgol Fordham, Pennington-Grimes Elementary School, Oakland Military Academy, Mainland High School |
| Gwaith | Cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, chwaraewyr pêl-fasged, actor ffilm, Llefarydd, actor llwyfan, actor teledu, gwleidydd |
| Aelod o | Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
| Priod | Pauletta Pearson Washington |
| Plant | John David Washington |
| Gwobr/au | Gwobr Donostia, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, MTV Movie Award for Best Villain, Horatio Alger Award |
Mae Denzel Hayes Washington, Jr. (ganed 28 Rhagfyr 1954) yn actor a chyfarwyddwr Americanaidd. Mae ef wedi cael ei ganmol yn fawr am ei ffilmiau ers y 1990au, gan gynnwys ei bortreadau o gymeriadau hanesyddol, megis Steve Biko, Malcolm X, Rubin Carter, Melvin B. Tolson, Frank Lucas a Herman Boone.
Mae Washington wedi derbyn tair Gwobr Golden Globe a dwy o Wobrau'r Academi am ei waith. Ef hefyd yw'r ail Americanwr-Affricanaidd yn unig i dderbyn Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a dderbyniodd yn 2001 am ei rôl yn y ffilm Training Day.
|