Gwiriwch eich Ategion
Mae ategion yn gyrru fideos, animeiddiadau a gemau yn eich Firefox. Cadwch lygad ar eu statws a'u cadw'n gyfredol.
Gwnewch yn siŵr i ailgychwyn Firefox ar ôl gwneud pob diweddariad sy'n cael ei argymell.
Dylai ategion cyffredin wirio'n aml.
Pob ategyn (0) agored i niwed
| Ategyn | Statws | Gweithredu |
|---|
| Ategyn | Statws |
|---|
| Ategyn | Gweithredu |
|---|
Cwestiynau Cyffredin Ategion
Angen cymorth? Ewch i Mozilla Support.Beth yw ategyn?
- Mae ategion yn darnau o feddalwedd sy'n gyrru fideos, animeiddiadau a gemau yn eich porwr.
- Mae nhw'n cael eu creu y tu allan i Firefox gan gwmnïau fel Adobe Systems ac Apple.
Pam ddylwn i ddiweddaru fy ategion?
- Mae hen ategion yn cynyddu'r perygl o gael ymosodiadau gan falwar, firysiau a bygythiadau diogelwch eraill. Mae nhw hefyd yn gallu achosi ymyriadau sy'n effeithio'n negyddol ar eich profiad pori.
- Mae ategion wedi eu diweddaru'n cadw eich porwr i weithio'n llyfn a diogel.
- Nid yw ategion bob tro'n diweddaru'n awtomatig felly mae fyny i chi o bryd i'w gilydd.
Sut gall Firefox fy nghynorthwyo?
Yn y dyfodol, bydd Firefox yn diweddaru'r ategion ar eich cyfer. Tan hynny, dylech wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd a diweddaru eich ategion er mwyn cadw eich Firefox yn ddiogel.
Sut fedra i weld pa ategion rwyf wedi eu gosod yn fy Firefox?
Uchod rydym wedi canfod eich ategion. I weld yr holl ategion rydych wedi eu gosod yn Firefox, dilynwch y camau hyn yn eich porwr bwrdd gwaith:
- Agor y .
- Dewis Ychwanegion.
- Cliciwch y tab ategion.
Sut fyddai'n analluogi ategyn?
Firefox ar gyfer y bwrdd gwaith:
- Agor y .
- Dewis Ychwanegion.
- Cliciwch y tab ategion.
- Cliciwch ar y gwymplen nesaf at yr ategyn rydych am ei hanalluogi.
- Dewiswch "Peidio Gweithredu" o'r dewisiadau sydd ar gael.
Rhybudd: Bydd analluogi ategyn yn golygu na fyddwch bellach yn gallu gwneud rhai pethau. Er enghraifft, os ydych yn analluogi Flash, ni fyddwch yn gallu gwylio fideos ar rhai gwefannau sy'n ffrydio fideos.